DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) 2024

 

DYDDIAD

04 Mawrth 2024

GAN

Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd

 

Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) 2024

 

Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol fy mod wedi rhoi cydsyniad i'r Gweinidog Bioddiogelwch, Iechyd Anifeiliaid a Lles arfer pŵer gwneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

 

Gosodwyd Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) 2024 ("y Rheoliadau") gerbron Senedd y DU ar 28 Chwefror 2024 gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol wrth arfer pwerau a roddwyd gan:

 

1.    Erthygl 4(2) o Reoliad (EU) 2017/1004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sefydlu fframwaith i'r Undeb ar gyfer casglu, rheoli a defnyddio data yn y sector pysgodfeydd ac ar gyfer cefnogi cyngor gwyddonol am y polisi pysgodfeydd cyffredin a roddir bellach i'r Ysgrifennydd Gwladol.

 

2.    Adrannau 36(1)(b) a (c) y Ddeddf Pysgodfeydd 2020.

      Mae'r offeryn hwn yn gwneud diwygiadau i gyfraith ganlynol yr UE a ddargedwir:

 

a)    Penderfyniad Gweithredu y Comisiwn (UE) 2019/909 yn sefydlu'r rhestr o arolygon a throthwyon ymchwil gorfodol at ddibenion rhaglen amlflwydd yr Undeb ar gyfer casglu a rheoli data yn y sectorau pysgodfeydd a dyframaethu;

 

b)    Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2239 sy'n pennu manylion gweithredu'r rhwymedigaeth lanio ar gyfer pysgodfeydd dyfnforol penodol yn nyfroedd Gogledd-orllewin Lloegr ar gyfer 2020-2021.

 

c)    Penderfyniad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) 2019/910 yn sefydlu rhaglen amlflwydd yr Undeb ar gyfer casglu a rheoli data biolegol, amgylcheddol, technegol a chymdeithasol-economaidd yn y sectorau pysgodfeydd a dyframaethu.

 

d)    Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 1393/2014 sy'n sefydlu cynllun gwaredu ar gyfer pysgodfeydd pelagig penodol yn nyfroedd Gogledd-orllewin Lloegr.

 

e)    Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 1395/2014 sy'n sefydlu cynllun gwaredu ar gyfer pysgodfeydd pelagig bach a physgodfeydd at dibenion diwydiannol ym Môr y Gogledd; a

 

f)     Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2238 sy'n pennu manylion gweithredu'r rhwymedigaeth lanio ar gyfer pysgodfeydd dyfnforol penodol ym Môr y Gogledd ar gyfer 2020-2021.

 

Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 28 Chwefror 2024 a byddant yn dod i rym ar 6 Ebrill 2024.

 

Nid yw Rheoliadau 2024 yn ymrwymo Gweinidogion Cymru i fabwysiadu unrhyw safbwynt o eiddo Llywodraeth y DU ar y mater hwn.

 

Nid yw'r Rheoliadau yn lleihau nac yn tanseilio pwerau Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd, ac nid ydynt yn creu, diwygio nac yn dileu unrhyw swyddogaethau a roddir i Weinidogion Cymru.

 

Hoffwn sicrhau'r Senedd mai polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru ar faterion o fewn maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, mae manteision i gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Y tro hwn, rwyf wedi rhoi fy nghydsyniad i'r Rheoliadau hyn er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a hwylustod wrth newid polisi yn y dyfodol, er mwyn cydgysylltu gwaith ar draws y DU, ac er cysondeb.

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru:

 

Diben yr offeryn

 

Mae'r Rheoliadau'n darparu bod cymhwyso'r Penderfyniad Rhaglen Amlflwydd a fydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2024 a'i Gynllun Gwaith cysylltiedig ar gyfer casglu a rheoli data pysgodfeydd yn cael ei ymestyn am ddwy flynedd hyd at 31 Rhagfyr 2026. Mae ymestyn y MAP yn sicrhau y bydd gan Gynlluniau Gwaith y DU o 2024 i ddiwedd 2026 sail ddeddfwriaethol (drwy gyfeirio at MAP cyfredol), gan gydlynu ar draws y Gweinyddiaethau Pysgodfeydd er mwyn parhau i gasglu data hanfodol

 

Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu bod dyddiad dod i ben 31 Rhagfyr 2024 ar gyfer yr eithriadau taflu sydd wedi'u cyfiawnhau'n wyddonol o'r Rhwymedigaeth Glanio yn cael ei ddileu. Bydd hyn yn sicrhau cydymffurfiad parhaus â'r rhwymedigaeth glanio tra bod Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn cael eu datblygu ar gyfer y stociau dan sylw.

 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

 

Rhoddwyd caniatâd i Lywodraeth y DU wneud y Rheoliadau oherwydd, er fy mod yn cydnabod nad yw Gweinidogion Cymru yn arfer pwerau datganoledig yng Nghymru, rwy'n credu, o dan yr amgylchiadau presennol lle mae angen dull cyson o reoli pysgodfeydd ledled y DU, mae'n ddull pragmatig sy'n sicrhau defnydd effeithlon o adnoddau Llywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, wrth gynnal trefniadau llywodraethu priodol drwy Fframwaith Cyffredin y DU ar Reoli Pysgodfeydd Môr.